Creu'r amodau ar gyfer Canol De Cymru mwy egnïol

Grŵp o bobl o bob oed yn rhedeg tuag at y gwyliwr wrth fachlud haul mewn parc

Mae Partneriaeth Actif Canolbarth y De yn arwain, yn cynllunio ac yn comisiynu gweithgareddau corfforol a chwaraeon mewn ffordd strategol ar draws y rhanbarth (Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerdydd a Bro Morgannwg).

Rydym yn credu bod cael pobl i symud y corff yn gallu arwain at fanteision pellgyrhaeddol i bobl ac i gymunedau. Yn ein rhanbarth ni, mae’n sbardun pwerus ar gyfer llesiant, cysylltiad a chyfleoedd.

YEr hynny mae gormod o bobl yn y rhanbarth yn methu’r manteision hyn ac mae rhai grwpiau’n llawer llai tebygol o elwa ar fanteision symud y corff nag eraill.

Dyna pam ein bod ni’n gwneud pethau’n wahanol. Rydym yn gwneud mwy na newid rhaglenni neu brosiectau, rydym yn ail-lunio sut mae systemau’n gweithio, sut mae partneriaid yn cydweithio a sut mae adrodd y stori am symud y corff. Rydym yn adeiladu ar lwyddiant ac yn archwilio syniadau newydd. Drwy weithio mewn ffyrdd newydd a herio hen fodelau, rydym yn gwneud symud y corff yn rhan o fywyd bob dydd i ragor o bobl, mewn rhagor o lefydd.

Mae ein huchelgais yn syml ond yn feiddgar

Gwneud symud y corff yn rhan o fywyd bob dydd a chreu rhanbarth hapusach ac iachach

Dau feiciwr canol oed yn edrych i'r pellter, yn sefyll gyda'u beiciau

Beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol

Dull systemau

Rydym yn edrych y tu hwnt i gyflawni er mwyn creu’r amodau ar gyfer newid, normau ac agweddau cymdeithasol, mannau a lleoedd, rhaglenni a chyfleoedd, llywodraethiant a pholisi.

Cydweithio fel gallu, nid slogan

Rydym yn cyd-greu gydag iechyd, llywodraeth leol, addysg a chymunedau, gan rannu perchnogaeth, dealltwriaeth ac effaith.

Arweinyddiaeth fel ased craidd

rydym yn meithrin arweinyddiaeth ar y cyd, gan gefnogi pobl i arwain o’u lle nhw yn y system.

Mae cynhwysiant wrth galon popeth a wnawn

Rydym yn gwrando ar leisiau amrywiol, yn hyrwyddo tegwch ac yn dylunio i bawb er mwyn creu system fwy cynhwysol.

Diffiniad ehangach o symud y corff

O chwarae gyda ffrindiau yn yr ysgol, beicio i’r gwaith, mwynhau’r awyr agored neu ymuno â chlwb chwaraeon, rydym yn hyrwyddo mudiad sy’n gweddu i fywydau go iawn.

Stori ddynol, fodern

Rydym yn siarad am symud y corff mewn ffyrdd sy’n gyfarwydd i bobl – ar sail profiad bywyd, posibilrwydd a chynnydd, nid perfformiad na phwysau.

Yr Effaith Rydym Yma i’w Chreu

  • Rhagor o bobl yn symud yn amlach
  • Cymunedau mwy cynhwysol a chysylltiedig
  • Rhanbarth cysylltiedig lle mae symud yn cefnogi llesiant
Nofwraig yn gwneud nofio cefn mewn pwll nofio dan do

Y sefyllfa ar hyn o bryd

Rydym wrthi’n adeiladu—yn adeiladu’r sylfaen i newid. Mae hyn yn golygu buddsoddi yn yr amodau sy’n helpu symud i ffynnu, yn archwilio ffyrdd o weithio, yn adeiladu ein sylfaen wybodaeth, yn cefnogi arweinyddiaeth a dysgu, yn cryfhau partneriaethau ac yn gwneud cysylltiadau newydd.

Megis dechrau ydym ni— felly cadwch eich llygaid ar agor

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â

Cysylltwch â ni